P-04-463 Lleihau Lefelau Halen mewn Bwyd
Geiriad y ddeiseb:
Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn galw ar Lywodraeth Cymru i leihau’r swm o halen sydd mewn bwyd, fel bod modd i bobl ddewis ffordd o fyw iach yng Nghymru.
Gwybodaeth gefnogol: Mae bwyta llawer o halen yn gyfrannwr nodedig at orbwysedd (pwysedd gwaed uchel) a all achosi strôc a thrawiad ar y galon.
Prif ddeisebydd: Harry Hayfield
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 19 Mawrth 2013
Nifer y llofnodion: 11